Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 13 Mehefin 2017
Amser:
09.00
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a:
Graeme Francis - Clerc y Pwyllgor
Kath Thomas - Dipwrwy Glerc
0300 200 6565
SeneddDeisebau@cynulliad.cymru
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 251KB) Gweld fel HTML (86KB)
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
Bu'r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i rannu profiadau'r deisebydd a gofyn:
· a yw'n arferol ledled Cymru i blant ag anawsterau dysgu beidio â gallu cael mynediad at dimau gofal argyfwng gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed; ac
· a oes unrhyw gynlluniau i ehangu mynediad at y gwasanaethau hyn.
Bu'r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y deisebwyr i rannu'r wybodaeth a gafwyd am opsiynau posibl ar gyfer ariannu cerflun ac yn gofyn iddynt roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am unrhyw gynnydd maes o law.
Bu'r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried cyllido Cyfoeth Naturiol Cymru i gefnogi'r gwaith o ailagor y Ffordd Goedwig i gerbydau ac i dynnu sylw at bryderon y deisebydd ynghylch yr amserlen ar gyfer yr astudiaeth arfaethedig.
Bu'r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros i glywed barn y deisebydd ac ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg cyn penderfynu ar y camau priodol i'w cymryd.
Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn beth fydd goblygiadau datganoli pwerau pellach dros olew a nwy ar y tir i bolisi Llywodraeth Cymru.
Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn y cwestiynau penodol a ganlyn a gynigiwyd gan y deisebwyr:
o a fydd yr adolygiadau arfaethedig yn cynnwys gwerthusiad o'r posibilrwydd o gyflwyno System Dychwelyd Ernes ac asesiad o'r ddeddfwriaeth sydd ei hangen; ac
o a fydd rhanddeiliaid yn gallu ymgysylltu â Llywodraeth Cymru mewn modd ystyrlon wrth iddi werthuso'r dystiolaeth o'r adolygiadau hyn cyn yr ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol.
Hefyd, cytunodd y Pwyllgor i ystyried cynnal ymchwiliad i'r cynnig yn y ddeiseb unwaith i ymateb Ysgrifennydd y Cabinet ddod i law.
Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb oherwydd yr amser sydd wedi mynd heibio ers iddi gael ei chyflwyno ac oherwydd nid yw'n bosibl nodi sut i ddwyn y ddeiseb ymlaen yn absenoldeb cyswllt gan y deisebydd.
Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb gan Lywodraeth Cymru a byrddau iechyd, a chytunodd i wahodd y deisebwyr a Diabetes UK Cymru i roi tystiolaeth lafar i'r Pwyllgor ar y ddeiseb a'r wybodaeth a gafwyd hyd yn hyn.
Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i ofyn a yw amseroedd aros mewn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys wedi parhau i wella yn Ysbyty Maelor Wrecsam a pha gamau sy'n cael eu cymryd yn genedlaethol i wella amseroedd aros mewn achosion brys.
Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniad y trafodaethau rhwng swyddogion a Chyngor Ceredigion ynghylch mesurau pellach posibl i wella'r A487.
Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i:
· ofyn am fanylion y drafodaeth ar orsaf newydd yng Ngabalfa fel rhan o'r Asesiad Cymal 1 o Flaenoriaethu Gorsafoedd Rheilffordd Newydd; a
· gofyn a fydd ystyriaeth ar wahân yn cael ei rhoi i gysylltiadau posibl â Metro De Cymru yn yr ardal a gwmpesir gan y ddeiseb.
Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Bro Morgannwg i ofyn barn y cyngor ar destun y ddeiseb a gofyn am ragor o wybodaeth am yr adolygiad o seilwaith trafnidiaeth yn y Fro.
Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am ganlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater hwn, a phenderfyniad Llywodraeth Cymru, cyn ystyried a oes angen cymryd camau ychwanegol ynghylch y ddeiseb.